Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle

Ieuan Wyn Jones AC (Arweinydd Plaid Cymru)

Y peth cynta sy angen ei wneud… ydi sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg mewn deddf newydd. Mae symboliaeth y cam hwn yn hynod o bwysig. Dyma fyddai’r cam pwysica i ddileu o’r cof bwriad y ddeddf uno i ladd y Gymraeg. Byddai adfer urddas y Gymraeg i’w phriod le ym mywyd Cymru yn rhan bwysig o’r broses o adfer ei defnydd ym mhob rhan o Gymru…

Mae’r amser wedi dod ar ôl dros 60 mlynedd o ddeddfu ar y Gymraeg i gydnabod hawliau sifil siaradwyr Cymraeg ac i wneud hynny yng ngolwg y gyfraith. Mae hawliau ieithyddol yn creu eglurder ym meddwl y cyhoedd ynglyn â be di natur y gwasanaeth y medrant ei ddisgwyl…

Yna mae’n bwysig sefydlu swydd o Gomisiynydd Iaith, person ag sydd iddo gyfrifoldebau rhagweithiol yn ogystal â rhai adweithiol…

Mae Cymru wedi disgwyl yn hir cyn sicrhau statws swyddogol i’w hiaith, ac mae pobl Cymru wedi disgwyl yn rhy hir am yr hawl i wasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein gwlad ein hunain. Mae’n fater o hunanbarch yn ogystal a chydnabod hawliau sifil siaradwyr Cymraeg. Cymru yw ein gwlad ac mae’r iaith Gymraeg, yn ei thrysor a’i hanes, ei diwylliant llafar ac ysgrifennedig yn perthyn i bawb sy’n byw yma.

Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol)

Rydym wedi ymdynghedu i ymestyn oblygiadau Deddf Iaith i gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus hynny sydd bellach y tu allan i’r sector gyhoeddus – dylai hynny fod yn gam cyntaf pendant tuag at gynyddu lefel y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg.

Wedi hynny bydd rhaid cael dadl lawn, gan dynnu i mewn y sectorau, cymunedau a mudiadau ar draws Cymru, ar sut i hyrwyddo hawliau’r iaith. Mae’r agenda ar sail hawliau a osodwyd gan Fwrdd yr Iaith yn ffordd newydd a diddorol y bydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn ei yrru yn ei flaen. Fel Rhyddfrydwr, credaf y dylid gweld datblygu a hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o ystod eang o hawliau sifil.

Bydd uno bwrdd yr iaith gyda Llywodraeth y Cynulliad yn gosod hyrwyddiant a hawliau’r iaith mewn lle ansicr iawn. Byddwn yn ymchwilio i’r syniad y dylai’r iaith gael Comisiynydd cryf. Comisiynydd a fyddai’n hyrwyddo a diffinio’r hawl i ddefnyddio’r iaith wrth ddelio gyda chyrff cyhoeddus, a’r hawl i addysg Gymraeg ac i ddysgu’r iaith.

Lisa Francis (Plaid Geidwadol Cymru)

Nid yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn rhoi sylw i hawliau iaith clir i'r cyhoedd, ac felly, dyma'r amser i gael trafodaeth fanwl ynglyn â chydnabod hawliau siaradwyr ein dwy iaith genedlaethol.

Rhaid wrth eglurder ynghylch beth y gall defnyddwyr iaith ei ddisgwyl, a allai, yn ei dro, hyrwyddo defnydd ymarferol o'r Gymraeg gan y cyhoedd, gan arwain, yn bwysig, at godi hyder defnyddwyr iaith.

Un o'r prif wendidau yn y ddeddfwriaeth gyfredol ar yr iaith Gymraeg yw nad yw'n gosod dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwybodaeth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel rhan o unrhyw ymchwiliad statudol i weithrediad cynlluniau iaith.”

Arglwydd Gwilym Prys Davies (Plaid Lafur)

Os yw’r iaith i fyw, gwelwn mor gwbl anhepgor yw ein bod yn symud ymlaen yn ebrwydd i ddiweddaru a chryfhau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993: i atgyfnerthu safle’r iaith mewn gweinyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus; i roi hawliau ieithyddol i siaradwyr y Gymraeg sy’n dymuno ei siarad yn eu bywyd beunyddiol ac i’r gymuned Gymraeg; i gynyddu’r ddarpariaeth o ysgolion Cymraeg, i greu canolfan i ddilysu a safoni termau yn y Gymraeg mewn meysydd newydd ac i sefydlu Comisiynydd statudol i fod yn warcheidwad cyfansoddiadol dros y Gymraeg.

Credaf mai ennill y ddeddfwriaeth honno yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu Cymru ar ddechrau’r ganrif newydd.

Dr Robyn Lewis (Bargyfreithiwr, cyn-gyfreithiwr a chyn-ddirprwy farnwr)

Mewn sefyllfa lle bo’r Gymraeg, bellach, yn iaith lleiafrif, a phawb yn medru Saesneg, lluchio llwch i’r llygad yw rhyfygu honni fod i’r ddwy iaith statws cyfartal. Pan fo statws y Saesneg yn statws gorfodol , de jure de facto, a’r Gymraeg i bob pwrpas yn ddewisol yn unig, ni fedr y dirywiad ond parhau, beth bynnag a ddywed y gwleidyddion, y cyfreithwyr a’r esgusodwyr eraill.

I’m tyb i, mae’n rhaid gwasgu’r danadl, a pheri gwneud hawl i wneud y Gymraeg yn orfodol, mewn gweinyddiad, mewn cyfraith, mewn busnes a diwydiant, ac mewn addysg. Dim ond trwy ddeddfwriaeth – a honno’n ddeddfwriaeth gref – y gellir hyn.

Mae’r diffyg presennol yn y pwerau a’r galluoedd i beri defnyddio’r Gymraeg yn ei gwlad ei hun yn profi’n eglur mai Deddf Iaith newydd, ac nid unrhyw bolisiau nac ewyllys da, sydd angen. Ac unwaith y ceir yr hawliau angenrheidiol, rhaid eu gweithredu.

Elfyn Llwyd AS (Aelod Seneddol Plaid Cymru, Meirionydd Nant Conwy)

Diolch am y cyfle hwn i ddangos cefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am Ddeddf Iaith gyflawn a chyfoes i’r iaith Gymraeg.

Fel un a oedd ar Bwyllgor Sefydlog y Mesur gwreiddiol roeddwn yn gwybod bryd hynny bod gwendidau creiddiol a sylfaenol i’r Mesur hwnnw, ac yn ddi-os mae angen deddfu i ddod a’r sector breifat oddi mewn i’r rheolau.

Mae’r angen hefyd yn fwy oherwydd bwriadau’r Llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith drwy greu Adran o’r Llywodraeth yng Nghaerdydd. Mae angen dyfarnydd cryf arnom.

Dr Meredydd Evans (Cyn-bennaeth adloniant y BBC yng Nghymru)

Mae’n hwyr bryd i ddiwygio’r Ddeddf Iaith bresennol ac nid ei diwygio yw trefnu i Lywodraeth bresennol y Cynulliad gymryd drosodd weinyddiaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn sylfaen gadarn i unrhyw Ddeddf Iaith foddhaol rhaid wrth ddatganiad o’r egwyddor fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a rhaid hefyd wrth ddarpariaeth gymwys ar gyfer cyfarfod â’r newidiadau mewn moddion cyfathrebu a ddaeth i fod yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Fel gwedd ar ddatganoli effeithiol disgwyliwn i’r Cynulliad fel cyfangorff drafod yn fanwl feirniadol gymhwyster y Ddeddf Iaith bresennol ar gyfer sefyllfa gyfoes y Gymraeg.

Jill Evans ASE (ASE Plaid Cymru)

Hoffwn anfon gair o gefnogaeth at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dymuno yn dda i chi yn eich ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd. Mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth, ac rwy'n eich llongyfarch am barhau i ymgyrchu mor frwd ac egniol ag erioed! Mae'n holl bwysig yn awr bod Cymdeithas yr Iaith, a'r rheiny oll sydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd yn targedu'r Blaid Lafur yn fwy nag erioed am yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd, a thrwy fy ngwaith yn Aelod o Senedd Ewrop rwyf yn ymgyrchu am statws swyddogol i'r iaith yn Ewrop- ymgyrch i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith gweithredol, byw. Dymunaf bob cefnogaeth i'r ymgyrch eleni, a gobeithio'n wir mai 2006 fydd Blwyddyn Deddf Iaith Newydd.

Dafydd Wigley (Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru)

Roedd y ddeddf bresennol yn annigonol yn ôi ym 1993 – dyna pam y bu i ASau Plaid Cymru bleidleisio yn ei herbyn. Bellach mae hynny gymaint mwy allan ohoni. Mae angen Deddf seiliedig ar hawliau – ac mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol gael yr hawl ELENI i allu llunio deddfwriaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg, gan gynnwys yr hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru gael addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, o fewn cyrraedd i’w cartrefi. Ac os ydy Llywodraeth Cymru’n benderfynol o chwalu’r Bwrdd Iaith, yn hytrach na’i gryfhau a’i wneud yn fwy annibynnol ar lywodraeth, yna mae’n rhaid cael corff newydd – Comisiwn, Ombwdsman neu beth bynnag – hyd braich o lywodraeth, i warchod hawliau siaradwyr yr iaith Gymraeg; a hynny gyda’r sail mewn deddf gwlad.

Leanne Wood AC (Plaid Cymru - Canol De Cymru)

Dwi'n cefnogi’n llwyr ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd. Ni allwn dderbyn unrhywbeth llai na statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Y prawf go iawn i'r pleidiau gwleidyddol nawr ydy gwneud mwy na siarad. Os nad ydyn nhw'n fodlon cynnwys cefnogaeth i Fesur y Cynulliad dros yr iaith yn eu maniffesto yn 2007, mi fyddwn ni'n gwybod nad ydyn nhw'n ymrwymedig i'r iaith. Mae’n rhaid gweld cwmnïau mawr, fel Starbucks a Dixons yn dangos parch at ‘Iaith Pawb’. Un peth y byddwn i'n hoffi ei weld fyddai Cymdeithas yr Iaith yn targedu Cymry di-Gymraeg gan fy mod i'n credu fod yna gefnogaeth ar draws y wlad nad ydym ni’n ddefnyddio. Mae rhaid i ni wneud yn siŵr fod y ddadl dros degwch a chyfiawnder i’r iaith Gymraeg yn cael ei esbonio i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Dewi Watkin Powell (Cyn Farnwr Uchel-Lys)

Y mae’n dda iawn gennyf glywed fod y Gymdeithas yn cynnal cyfarfod arbennig i hybu’r alwad am Ddeddf Iaith newydd.

Serch pwysigrwydd Deddfau Iaith 1967 a 1993, y mae bylchau mawr yn y gyfraith sydd yn honni rhoddi’r un safle i’r Gymraeg yng ngolwg y gyfraith honno ag a roddir i’r iaith Saesneg. Mae’n hen bryd i gau’r bylchau hynny. Nid mater o sentiment yw hyn na chwaith mater y gellir ei drin megis tynnu llaw ar hyd pen ci brathog. Mae’n fater o gyfiawnder elfennol i genedl y mae’r iaith Gymraeg yn gonglfaen ei hetifeddiaeth. Os yw Senedd Westminster a’i llywodraeth yn ewyllysio gallant unioni’r camau i gyd.

Eileen Beasley (Rosa Parks Cymru)

Gair i ddatgan fy nghefnogaeth i chi yn yr ymgyrch am Ddeddf Iaith newydd. Dymunaf bob llwyddiant i chi yn yr ymgyrch bwysig hon. Diolch am ddal ati; fe ddaw tro ar fyd yn y man.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Pen Roc, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ
Ffôn +44 (0)1970 624501 · Ffacs +44 (0)1970 627122